Слайд 2: Mae Hen Wlad Fy Nhadau
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri ; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd, Tros ryddid gollasant eu gwaed. Cytgan : Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.
Слайд 3: Mae Hen Wlad Fy Nhadau
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd ; Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi. Cytgan : Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.
Слайд 4: Mae Hen Wlad Fy Nhadau
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed, Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed, Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. Cytgan : Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad, Tra môr yn fur i'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau.